Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (203)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Rôl Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wrth Fynd i’r Afael â’r Agenda Trechu Tlodi (30 munud)
Dogfennau Ategol
Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Fframwaith Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Adroddiad ar Broses Asesu Cam 2
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Trechu Tlodi Tanwydd drwy Effeithlonrwydd Ynni (30 munud) Dogfennau Ategol
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Model Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol (45 munud) |
6 Dadl: Gwella Iechyd Meddwl (60 munud) NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl oedolion.
Mae ‘Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch (11 Rhagfyr 2013)’ ar gael yn: https://www.wao.gov.uk/system/files/publications/CAMHS_English_2013.pdf [Saesneg yn unig]
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill, ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi nodi problemau difrifol o ganlyniad i brinder gwelyau mewn wardiau gofal aciwt, ac yn nodi y gallai’r prinder hwn arwain at ddefnyddio celloedd yr heddlu yn amhriodol.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac yn gresynu at y problemau sy’n parhau i godi wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed wedi dirywio’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta.
Mae’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta, ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/090703eatingdisorderframeworken.pdf [Saesneg yn unig] |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Mehefin 2014